Preifatrwydd, cwcis, a gwasanaethau trydydd parti

Polisi Preifatrwydd

Mae FixMyStreet yn cael ei reoli gan yr elusen mySociety.

Gan ein bod yn gweithio ym meysydd tryloywder ac atebolrwydd, mae mySociety yn meddwl yn galed ac yn ymwybodol iawn am breifatrwydd a diogelwch ein defnyddwyr; mae hyd y polisi preifatrwydd yma yn un canlyniad o hynny. Rydym yn gwybod nad oes unrhyw un yn cael hwyl yn darllen trwy Bolisïau Preifatrwydd, felly rydyn ni wedi ceisio ei gadw'n yn un clir i’w ddarllen yn gweddol gyflym.

Gobeithio ei fod yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod, ond pe bai gennych unrhyw gwestiynau arall, mae croeso i chi contact us.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddio

Pan fyddwch yn gwneud adroddiad, rydym yn rhannu eich manylion, a manylion y mater dan sylw, i’r cyswllt yn yr awdurdod lleol neu gysylltiadau sydd yn gyfrifol am yr ardal ble darganfuwyd y broblem, neu gorff cysylltiedig arall megis Trafnidiaeth Cymru.

Pan rydych chi’n creu adroddiad

Pan rydych chi’n defnyddio FixMyStreet i anfon adroddiad, rydych chi’n ein darparu ni gyda gwybodaeth personol gan gynnwys:

  • Eich enw
  • Manylion cyswllt

Rydym ni’n anfon yr wybodaeth hon at y corff sy'n gyfrifol am drwsio’r broblem, yn unol â'ch dewis o gategori a lleoliad.

Ar yr un pryd bydd eich adroddiad yn ymddangos ar wefan FixMyStreet. Nid yw eich cyfeiriad e-bost nac eich rhif ffôn yn cael eu cyhoeddi, a bydd eich enw ond yn arddangos os ydych chi wedi dewis galluogi hynny.

Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio FixMyStreet ar eu gwefannau eu hunain. Pe baech yn creu adroddiad o fewn y ffiniau un o'r cynghorau hyn (naill ai drwy FixMyStreet.com neu drwy wefan yr awdurdod lleol), bydd yn cael ei gyhoeddi ar y ddau safle.

Mae FixMyStreet yn darparu ffrydiau RSS/JSON sy'n caniatáu i unrhyw un gyhoeddi adroddiadau ar eu gwefan neu dudalen eu hunain. Fel arfer mae'r ffrydiau hyn yn cynnwys adroddiadau a wnaed o fewn ardal leol penodol, ac fe'u cyhoeddir ar safleoedd diddordeb cymunedol neu leol.

Sylwch y bydd unrhyw beth rydych yn ei gynnwys yng nghorff eich adroddiad yn cael ei gyhoeddi mewn un neu yr holl lefydd a restrir uchod, felly cymerwch ofal i gadw gwybodaeth bersonol fel eich manylion cyswllt i'r blychau cywir.

Rydym yn storio eich manylion personol, ynghyd â'ch cyfrinair ble y defnyddir (mae cyfrineiriau yn cael storio mewn fformat sy'n annarllenadwy i unrhyw un — gan gynnwys ni — a elwir yn hash) ac unrhyw adroddiadau neu ddiweddariadau rydych chi'n eu gwneud, yn ein cronfa ddata ein hunain.

Mae'r rhain dim ond ar gael i weinyddwyr FixMyStreet sy'n cadw at polisïau trin data mewnol llym, a - lle mae awdurdod lleol yn gwsmer FixMyStreet Pro - i staff yr awdurdod lleol, ble bydd polisïau trin data a diogelwch eu hunain yn berthnasol.

Pan fyddwch chi'n ychwanegu diweddariad neu'n ymateb i'n arolwg “a yw eich problem wedi'i ddatrys?”

Pan fyddwch yn ychwanegu diweddariad i adroddiad, neu cliciwch trwy o'n harolwg “a yw eich problem wedi ei ddatrys?” rydym yn cofnodi hyn, ynghyd â'r adroddiad cychwynnol a'ch data defnyddiwr.

Cyhoeddir diweddariadau ar y wefan ond nid ydynt yn cael eu hanfon at y cyngor fel arfer oni bai am gynghorau sydd wedi dewis integreiddio'n llawn i’n sustem. Gallwch ddewis cynnwys eich enw - ni chyhoeddir eich cyfeiriad e-bost.

Pan fyddwch chi’n tanysgrifio i hysbysiad trwy e-bost.

Rydym yn casglu eich cyfeiriad e-bost, ac yn ei storio gyda manylion yr hysbysiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt.

Pan rydych chi’n cysylltu gyda’r tîm cymorth.

Bydd eich neges ar gael i'n tîm bach o staff cefnogol, sy'n glynu at bolisïau mewnol trin data llym.

Ni fydd eich gwybodaeth bersonol ei rhannu, na'i defnyddio at ddibenion eraill heblaw am y rheini rhestrir uchod, oni bai bod yn rhaid i ni yn ôl y gyfraith.

Ymchwil

Weithiau, rydym yn defnyddio data o FixMyStreet, neu'n ei rannu gyda thrydydd partïon y gellir ymddiried ynddynt ar gyfer ymchwil. Mae'r data hwn yn gwbl ddienw ac nid yw'n cynnwys unrhyw fanylion unigryw megis enwau, cyfeiriadau e-bost neu gynnwys adroddiadau. Mae ein polisi Rhyddhau Data Ymchwil i'w gweld ar gais.

FixMyStreet Pro

Pan fyddwch chi’n gwneud ymholiad

Rydym yn casglu enwau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost gweithwyr cyngor sy'n ymholi am FixMyStreet Pro, sy’n gofyn am alwad yn ôl neu ymuno gydag un o'n gweminarau.

Mae'r manylion hyn yn cael eu storio yn ein sustem Rheoli Perthynas Cwsmer mewnol. Yn unol â'r cais, byddwch yn clywed gennym drwy'r sianel yr ydych wedi'i ddewis (e-bost, ffôn neu drwy'r post).

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n defnyddio FixMyStreet

Creu adroddiad

  • Pan fydd eich cyngor yn ymateb i'ch adroddiad, os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost i ni , yn y rhan fwyaf o achosion bydd eu hateb yn cyrraedd mewnflwch eich e-bost yn uniongyrchol. Bydd yr ymateb hwn, ac unrhyw ohebiaeth ddilynol, yn digwydd y tu allan i sustem FixMyStreet, ac eithrio yn achos rhai cynghorau sydd wedi integreiddio gyda FixMyStreet fel bod eu hymatebion a'u awto-ddiweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar dudalen yr adroddiad. Os ydych chi wedi cyflwyno gwybodaeth trwy wirio ar eich ffôn, efallai na fyddwch yn derbyn unrhyw ymateb gan y cyngor, yn dibynnu ar sut mae eu sustemau'n wedi eu sefydlu.
  • Byddwn yn anfon e-bost atoch pe bai unrhyw un yn cynnig diweddariad i adroddiad gennych.
  • Byddwn yn anfon holiadur ar e-bost atoch chi bedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno problem, yn gofyn am ddiweddariad statws. Gallwch ddewis i beidio ateb holiaduron diweddaru statws ar ôl hynny.
  • Pe bai eich adroddiad yn arbennig o ddiddorol, efallai y bydd ein Rheolwr Cyfathrebu yn dod i gyswllt, gan ein bod ni'n hoffi cynnwys ceisiadau arbennig ar ein blog MySociety (neu rowch wybod yn uniongyrchol!).
  • Byddwn ond yn anfon e-byst atoch ynglŷn â'ch adroddiadau neu ddefnydd o'r safle.

Tanysgrifio ar gyfer hysbysiadau

Byddwn yn anfon e-bost awtomatig atoch bob tro y bydd rhywun yn gwneud adroddiad o fewn yr ardal rydych yn nodi, neu pan fo diweddariadau i adroddiad rydych wedi dewis ei ddilyn. Bydd amlder yr e-byst hyn yn dibynnu ar ba mor fawr yw eich ardal ddewisol a sawl adroddiad sy’n cael eu creu o'i fewn, ond ni fyddwch chi yn cael mwy nag un awr.

Dad-danysgrifio

Sut ydw i’n atal e-byst gennych?

Mae pob e-bost gyda hysbysiad a anfonwn yn cynnwys dolen dad-danysgrifio ar y gwaelod er mwyn i chi atal yr hysbysiad hwnnw. Fel y nodwyd uchod, wedi’r e-bost cyntaf am eich adroddiad, eich dewis chi bydd derbyn unrhyw holiadur pellach ar yr adroddiad hwnnw.

Dad-danysgrifio o weithgaredd marchnata FixMyStreet Pro

Bob tro i ni gysylltu gyda chi bydd yna opsiwn i chi ddewis peidio derbyn e-byst neu alwadau pellach gennym yn y dyfodol. Gallwch hefyd gysylltu gyda ni unrhyw bryd er mwyn gofyn i ni dynnu eich manylion o’n Rheolaeth Perthynas Cwsmer. Sylwer y gallai’r opsiwn cyntaf fod yn ateb gwell na thynnu eich manylion, gan ei fod yn caniatáu inni gadw cofnod nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi, ac yn atal ail-ychwanegu eich manylion yn ddamweiniol.

Sail gyfreithiol am brosesu

Wrth ddefnyddio FixMyStreet ar gyfer unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir uchod (anfon adroddiad, gadael diweddariad, rhybuddion e-bost neu gofrestru safle), rydym yn prosesu eich data o dan y sail gyfreithiol 6(1)(f) – buddiannau cyfreithlon. Rydym yn datgan bod gennym ddiddordeb elusennol a masnachol cyfreithlon mewn rhoi ffordd hawdd a chyhoeddus i bobl adrodd problemau stryd, hyd yn oed os ydyn nhw ddim yn gwybod at bwy ddylai'r problemau fynd, ac i anfon diweddariadau neu rybuddion. Manteision adrodd problemau yn gyhoeddus yw y gall eraill gweld yn gyflym beth sydd eisoes wedi'i adrodd, felly mae'n atal y cyngor rhag gorfod ymdrin â dyblygu. Mae hefyd yn creu cipolwg ar gyfer cymunedau lleol, felly mae'n hawdd gweld beth yw'r problemau cyffredin mewn penodol ardal, a pha mor gyflym maen nhw'n cael eu trwsio. Gall trigolion lleol eraill bori, darllen a rhoi sylwadau ar broblemau – ac efallai hyd yn oed cynnig ateb.

Cyfnodau cadw a'ch hawl i dadgofrestru

Adroddiadau a diweddariadau

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, nid ydym yn dileu adroddiadau na diweddariadau a wneir Trwy FixMyStreet. Mae adroddiadau hanesyddol FixMyStreet yn darparu adnodd amhrisiadwy ar gyfer ymchwilwyr i’r nifer a mathau o broblemau stryd a wnaed ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd mae'r safle wedi bodoli. Gall yr ymchwil hon helpu i lywio cynllunwyr dinesig, datblygwyr, côdwyr, haneswyr a gwyddonwyr cymdeithasol, ymhlith eraill.

Felly, pe baech yn gofyn i ni ddileu adroddiad, yn hytrach gan amlaf byddwn yn eich gwahodd i'w nodi’n anhysbys, fel nad oes cysylltiad cyhoeddus rhwng y cynnwys a’ch enw chi. Gallwch newid eich holl adroddiadau i fod yn ddienw, neu’n unigol, drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a chlicio ar y ddolen '"Cuddio'ch enw" wrth ymyl amser a dyddiad un o’ch adroddiadau. O'r dudalen yna, gallwch newid eich holl adroddiadau i fod yn ddienw, neu dim ond yr adroddiad unigol.

Eich gwybodaeth bersonol

Yn ogystal â'ch adroddiad neu'ch diweddariad yn ymddangos ar wefan FixMyStreet, bydd eich manylion - gan gynnwys eich enw a chyfeiriad e-bost - yn cael eu storio yn ein sustem weinyddol.

Pe baech yn cyflwyno adroddiad ond heb glicio ar yr e-bost cadarnhau, ni fydd eich adroddiad yn cael eu hanfon i'r cyngor; fodd bynnag, mi fydd eich adroddiad a'ch manylion yn parhau yn ein system ac ar gael i weinyddwyr y safle.

Bydd manylion personol yn cael eu tynnu o'n cronfa ddata yn awtomatig ar ôl dwy flynedd o segurdod yn y cyfrif cysylltiedig. Os gwelwch yn dda cysylltwch pe baech chi am i’ch manylion gael eu tynnu o'n cronfa ddata gweinyddol yn gynt na hynny.

E-byst cynorthwyol

Os ydych chi'n cysylltu â FixMyStreet drwy ein cyfeiriad e-bost cefnogaeth rydym yn cadw eich neges am ddwy flynedd, pan bydd yn cael ei ddileu'n awtomatig. Mae hyn er mwyn cynorthwyo parhad ac er mwyn i ni allu gweld unrhyw gyd-destun hanesyddol a allai effeithio ar ein e-byst cynorthwyol wedi hynny, hyd yn oed os yw aelodau o'r staff cymorth yn newid. Mae ein staff cynorthwyol yn cadw at bolisïau preifatrwydd mewnol, y gellir eu gweld ar gais.

FixMyStreet Pro

Pe nad ydych chi yn cysylltu gyda ni am gyfnod o 18 mis, byddwn yn nodi eich cyfrif yn un segur, ac ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion gwerthu oni bai eich bod yn dod i gyswllt eto.

Eich hawl i wrthwynebu

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi'r hawl i chi wrthwynebu ein prosesu o'ch gwybodaeth bersonol ac i ofyn i ni roi'r gorau i'w brosesu. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhoi'r hawl inni barhau i'w brosesu os gallwn ddangos seiliau cyfreithlon cymhellol dros y prosesu sy'n diystyru eich buddiannau, hawliau a rhyddid. Er mwyn ymarfer eich hawl i wrthwynebu, gallwch cysylltwch â ni, gan roi rhesymau penodol pam eich bod yn gwrthwynebu prosesu eich data personol. Dylai'r rhesymau hyn fod yn seiliedig ar eich sefyllfa benodol.

Eich hawl i fynediad

Gellir cysylltu unrhyw bryd i ofyn i weld pa ddata personol sydd gennym amdanoch chi.

Eich hawl i achwyn

Pe baech yn credu ein bod wedi cam-drin eich data, gennych yr hawl i gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. You can report a concern here (ond cysylltwch â ni'n gyntaf, er mwyn i ni geisio eich helpu).

Pwy ydym ni

Mae FixMyStreet yn cael ei reoli gan mySociety, menter gymdeithasol nid-er-elw yn y Deyrnas Unedig. Ein cyfeiriad cofrestredig yw:

mySociety
483 Green Lanes
London
N13 4BS
United Kingdom

…a gallwch hefyd cysylltu yma.

Cwcis

Er mwyn gwneud ein gwasanaeth yn haws neu'n fwy defnyddiol, rydyn ni weithiau yn rhoi data bach ffeiliau ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol, a elwir yn gwcis; mae llawer o wefannau yn gwneud hyn. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i, er enghraifft, cofiwch eich bod wedi mewngofnodi felly does dim angen i chi wneud hynny ar bob tudalen, nac i fesur sut mae pobl yn defnyddio'r gwefan fel y gallwn ei gwella a sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn. Isod, rydym yn rhestru y cwcis a'r gwasanaethau y gall y safle hwn eu defnyddio.

Enw Cynnwys Cyffredin Pallu
fixmystreet_app_session Dynodwr unigryw ar hap Pan fydd porwr ar gau

Mesur defnydd y wefan (Google Analytics)

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics er mwyn casglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r safle hwn. Rydym yn gwneud hyn er mwyn helpu i sicrhau bod y safle yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i'n helpu ni gwneud gwelliannau.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth megis y tudalennau rydych chi'n ymweld, pa mor hir ydych chi ar y safle, sut gyrhaeddoch chi yma, beth rydych chi'n ei glicio, a gwybodaeth am eich porwr gwe. Mae cyfeiriadau IP yn cael eu cuddio (dim ond tamaid sy'n cael ei storio) a dim ond mewn agregau yr adroddir gwybodaeth bersonol. Nid ydym yn gadael i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol at unrhyw bwrpas ar wahân i ddarparu gwybodaeth ddadansoddol i ni, ac rydym yn argymell bod unrhyw ddefnyddiwr o Google Analytics yn gwneud yr un peth.

Opting out

You can opt out of Google Analytics cookies.

Pe baech eisiau analluogi olrhain sy’n seiliedig ar hysbysebion, gallwch chi newid eich gosodiadau Google Ads, neu optio allan o olrhain sy’n seiliedig ar hysbysebion ar nifer o ddarparwyr mewn un tro gan ddefnyddio'r ffurflen dewisiadau Network Advertising Initiative.

Gallwch fod yn sicr, rydym ond yn olrhain data defnydd am un rheswm: i'n helpu ni ddeall sut i alluogi ein safle weithio'n well i chi, ein defnyddwyr.

Credydau

Cymrwyd rhannau o’r geiriad uchod o dudalen cwcis gov.uk (o dan Y Drwydded Llywodraeth Agored).